PET(4)-05-12 p9a

 

P-04-375 Stopior system optio allan ar gyfer rhoi organau

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i stopior cynigion ar gyfer ei system optio allan ar gyfer rhoi organau. Rwyf or farn ei bod yn gwbl anfoesegol fod Llywodraeth Cymru yn ceisio cyflwyno system o optio allan ar gyfer rhoi organau. Ni ddylid cyflwynor system hon, yn enwedig os nad ywn ystyried barn perthnasau. Er fy mod yn gweld yr angen am roi organau er mwyn osgoi marwolaethau diangen, rwyf yn dal or farn mai penderfyniad ir unigolyn ddylai hyn fod ac nid rhywbeth a gaiff ei orfodi arnom gan y wladwriaeth. Dywedodd Dr Morgan, Archesgob Cymru: Mater o rodd, nid mater o ddyletswydd, yw rhoddi organ, does bosib ac rwyn cytunon llwyr gydar datganiad. Maer system hon yn annheg ac yn treisio hawliau unigolion. Arwyddwch y ddeiseb os ydych or un farn ac am stopior ddeddfwriaeth hon rhag cael ei phasio.

Prif ddeisebydd: Bablin Molik

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 28 Chwefror 2012

Nifer y deisebwyr: 71